Canllawiau

Offer TWE Sylfaenol — help ynghylch gosod Linux

Diweddarwyd 18 Mawrth 2026

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i fersiwn 26.0, meddalwedd ‘Offer Talu Wrth Ennill (TWE) Sylfaenol’ (BPT), a gafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 16 Chwefror 2026.

Dibyniaethau sylfaenol

Meddalwedd 64-bit AppImage yw’r Offer TWE Sylfaenol, sydd wedi’i chynllunio i redeg mewn amgylchedd bwrdd gwaith graffigol. Mae wedi’i phrofi ar y dosbarthiadau canlynol:

  • Ubuntu 24.04 LTS

  • Ubuntu 25.10 (sef y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael yn ystod y broses ddatblygu)

Er mwyn rhedeg Offer TWE Sylfaenol, mae angen y canlynol ar y ddyfais: 'glibc >=2.31' a 'libfuse2' a 'libopengl0'

Efallai y bydd angen i chi osod libfuse2 a libopengl0 ar Ubuntu os nad ydynt eisoes wedi’u gosod. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio’r gorchmynion canlynol:

  • sudo apt install libfuse2

  • sudo apt install libopengl0

Fformat newydd ar gyfer AppImage

Gellir rhedeg y pecyn AppImage yn uniongyrchol, nid oes cam gosod ar wahân.

Efallai y gofynnir i chi ganiatáu hawliau gweithredu i AppImage y tro cyntaf y byddwch yn ei redeg.

Dylid echdynnu AppImage o’r lawrlwythiad zip cyn ei redeg. Bydd rhai offer Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol (GUI), er enghraifft Archive Manager Ubuntu, yn caniatáu i AppImage gael ei redeg o fewn eu rhyngwyneb heb ei echdynnu, ond efallai na fydd yn rhedeg yn gywir wrth wneud hynny.

Bydd yr Offer TWE Sylfaenol yn storio ei ddata yn ’${HOME}/HMRC/payetools-rti’. Os nad yw’r cyfeiriadur hwn yn bodoli, bydd y cyfeiriadur yn cael ei greu.

Nid yw Applmage Offer TWE Sylfaenol yn rhoi eicon bwrdd gwaith yn awtomatig ar eich dyfais, nac yn ychwanegu ei hun at ddewislen arferol y bwrdd gwaith na’r lansiwr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fformat AppImage a sut i gael AppImage i redeg ar eich dosbarthiad ar wefan AppImage (yn agor tudalen Saesneg).

Newidiadau ffurfweddu ar gyfer fersiynau 25.0 a diweddarach

Mae fersiynau Offer TWE Sylfaenol 25.0 a diweddarach yn diweddaru nifer o gydrannau craidd. Mae hyn yn golygu bod rhai opsiynau ffurfweddu wedi newid neu wedi’u symud.

I ddechrau Offer TWE Sylfaenol, rhedwch y rhaglen 'Basic_PAYE_Tools-xx.0.xxxxx.yyy-x86_64.AppImage'.

Mae gan y rhaglen ryngwyneb defnyddiwr sydd wedi ei ddiweddaru ei ffeil ffurfweddu ei hun:

# macOS and Linux

${HOME}/HMRC/payetools-rti/bptshell-settings.ini

Mae’r ffeiliau cofnod bellach yn cael eu cadw yn y man canlynol:

${HOME}/HMRC/payetools-rti/logs/

Hysbysiad Pwysig i Ddefnyddwyr ynghylch Offer TWE Sylfaenol 24.x

Os ydych yn dadosod yr Offer TWE Sylfaenol (fersiwn 24.1), gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud copi wrth gefn o’ch data defnyddiwr yn gyntaf. Peidiwch â dileu eich data defnyddiwr wrth redeg y rhaglen ddadosod, gan y bydd hyn yn dileu eich cronfa ddata o’r system ffeiliau.

Modd Cynorthwyol

Os ydych fel arfer yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol yn y Modd Cynorthwyol, bydd angen i chi ychwanegu’r llinellau canlynol at y ffeil bptshell-settings.ini:

[General]mode=assitive

Yn flaenorol, roedd y gosodiad hwn ar ffurf rti.cfg yn y cyfeiriadur gosod. Os oes gennych fersiwn 25.0 neu fersiwn diweddarach, ni fydd gosod y gwerth hwn ar ffurf rti.cfg bellach yn cael unrhyw effaith.

Rhedeg AppImage

Dylid echdynnu AppImage o’r lawrlwythiad zip cyn ei redeg. Mae rhai offer GUI, er enghraifft Rheolwr Archif Ubuntu, yn caniatáu i chi redeg rhaglen y gosodwr y tu mewn i’w rhyngwyneb heb ei thynnu, ond efallai na fydd yn rhedeg yn gywir fel hyn.

Newidiwch leoliad y cyfeiriadur i’r ffeil AppImage sydd wedi’i hechdynnu o’r zip. Yna, dylech ei weithredu:

]$ ./Basic\_PAYE\_Tools-xx.0.xxxxx.yyy-x86\_64.AppImage

Datrys Problemau gydag AppImage

Os bydd dim byd yn digwydd pan fyddwch yn rhedeg AppImage drwy glicio ddwywaith ar y rhaglen, efallai y gallwch ddadansoddi rhai problemau drwy ei redeg yn y modd testun o’r llinell orchymyn.

Mae ffeil cofnodi hefyd yn cael ei chreu yn y man hwn: '${HOME}/HMRC/payetools-rti/logs/'.  Er enghraifft: '~/HMRC/payetools-rti/logs/'.

Bydd allbwn y consol a’r ffeil cofnod yn cynnwys manylion a allai eich helpu i ddatrys y broblem eich hun. Er enghraifft, os oes yna ddibyniaethau coll.

Os oes angen cymorth arnoch, bydd angen i chi gael y ffeil cofnod yn barod pan fyddwch yn cysylltu â CThEF.

Proses gefndirol gan y gweinydd

Dull arall o adael y gweinydd yn hwylus yw drwy ddefnyddio’r URL canlynol:

http://127.0.0.1:46729/QUIT

Gall hyn fod yn ddefnyddiol os bydd proses gefndirol gan y gweinydd yn dal i redeg, neu os nad yw AppImage yn cau’n gywir.