Papur polisi

Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig (EPR) PackUK am Becynwaith: datganiad modiwleiddio ffioedd gwaredu cynhyrchwyr

Diweddarwyd 17 Chwefror 2026

Dyddiad: 28 Mehefin 2025

Wrth sefydlu’r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am becynwaith (y cyfeirir ato yn y ddogfen hon fel “y cynllun”), mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon fel “y Rheoliadau”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinyddwr y Cynllun PackUK gyhoeddi datganiad polisi ar fodiwleiddio ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei sefydlu.

Mae’r datganiad polisi modiwleiddio hwn yn nodi’r dull y bydd PackUK yn ei ddefnyddio i amrywio EPR am becynwaith ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi er mwyn adlewyrchu i ba raddau y mae pecynwaith cartrefi sy’n cael ei gyflenwi gan gynhyrchydd mewn categori pecynwaith amgylcheddol gynaliadwy ac i gymell cynhyrchwyr i ddefnyddio pecynwaith sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy.

O dan y datganiad polisi hwn, ailgylchadwyedd (yn ôl y Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) v1.1) fydd mesur y cynaliadwyedd amgylcheddol, yn unol â rheoliad 64(7)(c) o’r Rheoliadau. Bydd y fersiwn ddiweddaraf o’r RAM yn cael ei defnyddio pan fydd anfonebau bob blwyddyn yn cael eu cynhyrchu.

Bydd modiwleiddio’n dechrau o ail flwyddyn y cynllun, gyda’r ffioedd wedi’u modiwleiddio cyntaf yn berthnasol i gyfrifiadau ffioedd gwaredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027 (a gyfrifir gan ddefnyddio data sy’n ymwneud â phecynwaith a gyflenwir yn 2025).

Bydd datganiad polisi diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar gyfer blynyddoedd ar ôl 2028 i 2029 yn dilyn adolygiad o’r polisi modiwleiddio yn unol â pharagraff 8(7)(b) o Atodlen 7 i’r Rheoliadau. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i fonitro effeithiau’r polisi modiwleiddio, ymgysylltu â’r diwydiant i ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, ac egluro unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg.

Ni fydd modiwleiddio ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi yn cynyddu cyfanswm yr holl ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi sy’n cael ei dalu. Yn hytrach, bydd yn effeithio ar sut mae’r costau hyn yn cael eu dyrannu yn ôl deunydd.

Strategaeth modiwleiddio

I danategu’r polisi modiwleiddio hwn, bydd PackUK yn dilyn dwy egwyddor gychwynnol ar gyfer pennu effeithiau modiwleiddio. Bydd PackUK yn:

  • sbarduno newid i ddylunio pecynwaith sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy, gydag ailgylchadwyedd fel y dangosydd
  • lleihau’r risg o newid i ddeunyddiau llai amgylcheddol gynaliadwy

Y ffactor modiwleiddio cyntaf yw ailgylchadwyedd. Bydd PackUK yn ystyried rhagor o ddangosyddion o gynaliadwyedd amgylcheddol, fel y disgrifir yn rheoliad 64(7) o’r Rheoliadau, ar gyfer datganiadau polisi modiwleiddio dilynol rhwng 2029 a 2030.

Modiwleiddio

Dylid darllen y polisi modiwleiddio yn y datganiad hwn ar y cyd â’r ffioedd sylfaenol y bydd PackUK yn eu cyhoeddi wrth iddynt ddod ar gael. Mae ffioedd sylfaenol ar gyfer 2025 yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK, ac yn y dyfodol byddant yn cael eu cyhoeddi gyda ffioedd wedi’u modiwleiddio ar ôl i gynhyrchwyr rhwymedig gyflwyno data pecynwaith.

Mae modiwleiddio’n berthnasol i ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi sy’n rhan sylweddol o ffioedd sylfaenol. Dim ond ar ôl cyfrifo ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi y gellir cyfrifo’r ffioedd wedi’u modiwleiddio.

O dan y RAM, mae’r holl becynwaith sydd o fewn y cwmpas yn cael sgôr coch, oren neu wyrdd. Coch yw’r deunydd y gellir ei ailgylchu leiaf, a gwyrdd yw’r deunydd y gellir ei ailgylchu fwyaf. Bydd y rheoleiddwyr amgylcheddol yn sicrhau bod y sgoriau sy’n cael eu hadrodd yn gywir.

O 2026 ymlaen, bydd y ffi sylfaenol a ddarperir ar gyfer pob deunydd yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio ffi tunelledd gwastraff pecynwaith cartrefi, a bydd yn adlewyrchu sgôr oren. Bydd y pris fesul tunnell yn uwch na hyn ar gyfer pecynwaith sydd â sgôr coch ac yn is ar gyfer pecynwaith sydd â sgôr gwyrdd.

Sut mae modiwleiddio’n cael ei gyflawni

Wrth gyfrifo ffioedd gwaredu, bydd modiwleiddio’n cael ei weithredu drwy luosi elfen ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi â’r ffactor modiwleiddio. Mae’r datganiad hwn yn nodi’r ffactor modiwleiddio ar gyfer pob un o’r 3 blynedd y mae’r datganiad yn ymdrin â hwy, a rhagwelir y bydd gan ddatganiadau dilynol ddull gweithredu tebyg.

Bydd lluosi ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi â’r ffactor modiwleiddio ar gyfer pecynwaith sgôr RAM coch yn arwain at gynnydd yn y ffi honno.

Bydd yr arian ychwanegol a godir drwy gymhwyso’r ffactor modiwleiddio i’r ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi ar gyfer pob tunnell o becynwaith sgôr RAM coch yn ffurfio pot o arian i’w ailddosbarthu. Bydd y pot ailddosbarthu hwn yn cael ei ddefnyddio i godi ffi is am waredu gwastraff pecynwaith cartrefi ar gyfer deunydd pecynwaith sgôr RAM gwyrdd. Bydd pob tunnell o ddeunydd gwyrdd (ar draws pob categori deunyddiau) yn cael gostyngiad canrannol cyfartal ar ei ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi.

Dewiswyd y dull hwn i leihau’r risg o newid i ddeunyddiau sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Ni fydd deunydd â sgôr oren yn gweld unrhyw newid o ran y ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi o ganlyniad i fodiwleiddio.

Y ffactor modiwleiddio

Ar gyfer pob blwyddyn asesu sy’n berthnasol i’r datganiad hwn, bydd y ffactor

modiwleiddio ar gyfer deunyddiau pecynwaith RAM Coch fel y disgrifir yn Nhabl 1.

Tabl 1: Ffactorau modiwleiddio fesul blwyddyn

Blwyddyn Asesu Ffactor
2026 i 2027 1.2
2027 i 2028 1.6
2028 i 2029 2.0

Mae’r ffactor modiwleiddio wedi cael ei ddylunio i gynyddu’n raddol dros y cyfnod cychwynnol, gan roi gwobr ar unwaith i becynwaith sydd eisoes yn RAM gwyrdd, ar yr un pryd â chynnig newid teg a rhesymol i gynhyrchwyr pecynwaith RAM coch sy’n ei chael hi’n anodd newid ar unwaith i ddefnyddio pecynwaith mwy amgylcheddol gynaliadwy.

Dewiswyd y ffactorau modiwleiddio hyn yn dilyn ystyriaeth ofalus o amcan y polisi a thrafodaethau gyda’r gadwyn werth.

Amcan modiwleiddio yw sbarduno gwelliannau yn nyluniad a chyfansoddiad pecynwaith, sy’n cyd-fynd â dyletswydd PackUK o dan baragraff 2(c) o atodlen 7 i’r Rheoliadau. Bydd PackUK yn parhau i addasu’r ffactor modiwleiddio os bydd gwneud hynny’n cyflawni’r amcan hwnnw, gan ystyried goblygiadau perthnasol gwneud hynny. Bydd penderfyniad ar ffactorau modiwleiddio yn y dyfodol yn cael ei wneud fel rhan o bwynt adolygu cyntaf y polisi modiwleiddio ffioedd, a fydd yn digwydd erbyn 2028 fan bellaf.

Bydd y ffactorau modiwleiddio a bennir yn y datganiad hwn yn cael eu cymhwyso wrth gyfrifo ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi bob blwyddyn. Dim ond ar ôl i gynhyrchwyr rhwymedig gyflwyno’r holl ddata y gellir cyfrifo ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi. Ar ôl cyfrifo ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi, bydd PackUK yn cyhoeddi tabl o’r ffioedd wedi’u modiwleiddio terfynol, a bydd hyn yn cyd-fynd â chyhoeddi anfonebau i gynhyrchwyr mawr rhwymedig.

O dan baragraff 2(c) o Atodlen 7 i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024, rhaid i PackUK, wrth arfer ei swyddogaethau, weithredu yn unol â’r egwyddor o’r angen i wneud y canlynol:

  • cymell defnyddio pecynwaith sy’n amgylcheddol gynaliadwy
  • atal pecynwaith rhag troi’n wastraff
  • gwaredu gwastraff pecynwaith
  • cynyddu ailddefnyddio pecynwaith a nifer ac ansawdd y deunyddiau pecynwaith sy’n cael eu hailgylchu

Pecynwaith meddygol

Mae PackUK yn cydnabod bod gan becynwaith meddygol le arbennig yn y dirwedd pecynwaith, a’i fod yn destun dull gwahanol o reoleiddio i fathau eraill o becynwaith.

Yn unol â Rheoliad 64(10) o’r Rheoliadau, mae PackUK wedi ystyried y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i becynwaith meddygol, ac sy’n effeithio ar allu cynhyrchwyr i ddefnyddio pecynwaith sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy. Ar ben hynny, mae PackUK yn cydnabod bod modd ailgylchu rhywfaint o becynwaith meddygol ac felly nad yw pecynwaith meddygol wedi’i eithrio rhag modiwleiddio ffioedd.

Er hynny, bydd pecynwaith meddygol yn cael ei drin yn wahanol i becynwaith arall. Rhaid i becynwaith meddygol gael ei adrodd o dan godau gwahanol:

  • coch – meddygol
  • oren – meddygol
  • gwyrdd – meddygol

Bydd ffioedd ar gyfer pecynwaith meddygol a gaiff ei asesu fel ‘gwyrdd – meddygol neu ‘oren – meddygol’ yn cael eu modiwleiddio yn unol â’r sgoriau RAM hyn.

Rhaid i becynwaith meddygol a asesir yn goch gael ei adrodd fel ‘coch – meddygol’ oni bai nad oes modd defnyddio mwy o becynwaith ailgylchadwy oherwydd rheolau a chyfyngiadau cyfreithiol – y cyfeirir atyn fel coch oherwydd gofyniad rheoleiddiol (RBVORR).

Os yw eich cynnyrch yn RBVORR, dylech ei adrodd fel oren – meddygol.

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich asesiad ailgylchadwyedd yn y ddau achos, os ydych yn adrodd eich cynnyrch fel:

  • oren-meddygol, oherwydd ei fod yn RBVORR
  • coch-meddygol, oherwydd nad yw RBVORR yn gymwys

Pan asesir bod pecynwaith meddygol yn goch, ond nad yw hyn o ganlyniad i ofyniad rheoleiddiol, bydd yn destun modiwleiddio yn yr un ffordd â deunyddiau pecynwaith eraill â sgôr coch. Mae rhagor o fanylion am sut mae rhoi gwybod am ddata pecynwaith meddygol wedi’u nodi yn y canllawiau adrodd.

Y camau nesaf

Bydd PackUK yn parhau i gasglu tystiolaeth i gefnogi modiwleiddio ffioedd gwaredu pecynwaith cartrefi ac yn nodi mesurau newydd a allai fod yn sail i fersiynau o fodiwleiddio ffioedd yn y dyfodol. Cynhelir adolygiad o effaith a llwyddiant y polisi modiwleiddio hwn cyn cyhoeddi’r datganiad polisi nesaf.

Rydym hefyd yn comisiynu prosiect ymchwil i ddatblygu asesiad mwy cynhwysfawr o gynaliadwyedd amgylcheddol. Mae angen hyn i ymestyn modiwleiddio ffioedd EPR am becynwaith i gynnwys ystod ehangach o feini prawf cynaliadwyedd amgylcheddol yn y ffordd fwyaf gwrthrychol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y prosiect hwn yn helpu EPR am becynwaith i gymell pecynwaith gwell a lleihau niwed i’r amgylchedd ehangach yn y DU o wastraff pecynwaith.

Atodiad: Cyfrifo Ffioedd Gwaredu gwyrdd

Mae’r cyfrifiad ar gyfer modiwleiddio ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi â sgôr RAM gwyrdd yn dechrau drwy gyfrifo maint y refeniw ychwanegol a gynhyrchir gan y ffactor modiwleiddio sy’n berthnasol i ddeunyddiau pecynwaith sgôr RAM coch. Mae’r refeniw ychwanegol hwn wedyn yn cael ei rannu â swm y tunelledd gwyrdd wedi’i luosi â’i ffi waredu briodol.

Mae hyn yn cyfrifo’r gostyngiad sydd ar gael o ran ffioedd y gellir ei gymhwyso i holl ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi â sgôr RAM gwyrdd, gan gynnal cyfanswm gwerth y ffioedd gwaredu a dalwyd ar draws yr holl becynwaith sy’n hafal i’r hyn a dalwyd cyn modiwleiddio.

Mae’r gostyngiad hwn a gyfrifwyd wedyn yn cael ei gymhwyso i ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi sgôr RAM gwyrdd ar gyfer categori deunydd penodol drwy luosi ei warediad priodol ag 1 llai’r gostyngiad a gyfrifwyd.

Mae’r ffi gwaredu gwyrdd yn hafal i’r ffi gwaredu wedi’i luosi ag un, llai cyfanswm y premiwm a godwyd ar y deunyddiau coch ar draws pob deunydd, wedi’i rannu gyda swm y tunelledd gwyrdd ar y farchnad, wedi’i luosi gyda’r ffi gwaredu ar gyfer pob deunydd yn ei drefn.

Yn ffurfiol, gellir ysgrifennu’r hafaliad hwn fel a ganlyn.

Mae’r ffi gwaredu gwyrdd ar gyfer deunydd i yn hafal i’r ffi gwaredu wedi’i luosi gydag un, llai cymhareb. Rhifiadur y gymhareb yw’r swm ar draws pob deunydd y ffi gwaredu, wedi’i luosi gyda chyfran y premiwm coch a’r addasydd coch, llai un. Yr enwadur yw swm, ar draws pob deunydd, y gyfran premiwm gwyrdd, wedi’i luosi gyda’r ffi gwaredu.

Lle mai ‘i’ yw’r gyfres o 8 categori deunyddiau:

  • PS_Coch yw nifer y tunelli o ddeunyddiau sgôr RAM coch a gyflenwir yn y farchnad
  • PS_Gwyrdd yw nifer y tunelli o ddeunyddiau sgôr RAM gwyrdd a gyflenwir yn y farchnad
  • ModCoch yw’r ffactor modiwleiddio a gymhwysir i ffioedd deunyddiau pecynwaith sgôr RAM coch (y ffi waredu wedi’i lluosi ag 1.2, 1.6, 2, gan gynyddu dros y 3 blynedd)
  • Ffi_Gwaredu yw’r ffi gwaredu ar gyfer pob categori deunyddiau
  • Ffi_Gwaredu_Gwyrdd yw’r categori ffi gwaredu sgôr RAM gwyrdd a godir fesul tunnell, gyda ffi wahanol yn cael ei chodi ar gyfer pob categori deunydd

Enghraifft Syml

I symleiddio, dim ond 3 chategori perthnasol sydd ar y farchnad. 1,000 tunnell o blastigau caled ar y farchnad, 2,000 tunnell o bapur a 3,000 tunnell o wydr.

Dyma ddadansoddiad y RAM o’r categorïau hyn:

  • plastig caled: 60% gwyrdd, 30% oren, 10% coch (600 tunnell o wyrdd, 300 tunnell o oren, 100 tunnell o goch)
  • papur: 50% gwyrdd, 30% oren, 20% coch (1000 tunnell o wyrdd, 600 tunnell o oren, 400 tunnell o goch)
  • gwydr: 70% gwyrdd, 20% oren, 10% coch (2100 tunnell o wyrdd, 600 tunnell o oren, 300 tunnell o goch)

Dyma’r ffioedd gwaredu ar gyfer y categorïau hyn:

  • plastig caled: £423
  • papur: £196
  • gwydr: £192

Mae’r ffactor modiwleiddio coch ddwbl y ffi waredu.

Enghraifft o gyfrifo ffi waredu gwyrdd plastig caled

Hafaliad ar gyfer y ffi waredu gwyrdd ar gyfer plastig caled. Mae’r ffi yn hafal i 423 wedi’i luosi gydag un, llai ffracsiwn. Rhifiadur y ffracsiwn yw: 423,100 tunnell wedi’i luosi gyda (dau llai un), adio 196 wedi’i luosi gyda 400 tunnell wedi’i luosi gyda (dau llai un), plws 192 wedi’i luosi gyda 300 tunnell wedi’i luosi gyda (dau llai un). Enwadur y ffracsiwn yw: 423 wedi’i luosi gyda 600 tunnell, adio 196 wedi’i luosi gyda 1,000 tunnell, adio 192 wedi’i luosi gyda 2,100 tunnell.

Enghraifft o’r hafaliad rhifyddol ar gyfer ffi waredu gwyrdd ar gyfer plastig caled

Hafaliad rhifyddol o fformiwla’r ffi waredu gwyrdd. Mae’r mynegiad yn symleiddio i 423 wedi’i luosi gydag un llai 178,300 wedi’i rannu gyda 853,000, yn hafal i 423 gwaith 0.790973, sy’n rhoi’r gwerth terfynol o £334.58.

Y gostyngiad ar gyfer pecynwaith sgôr RAM gwyrdd ar gyfer pob categori deunydd yw 1 llai 0.7909730 = 20.903%

Byddai hyn yn berthnasol i’r holl becynwaith sgôr RAM gwyrdd, ar draws yr holl gategorïau deunyddiau.

Gan fod gwerth y pot ailddosbarthu yn dibynnu ar faint o becynwaith sgôr RAM coch a gyflenwir, a bod cyfran ohono’n dibynnu ar faint o becynwaith sgôr RAM gwyrdd a gyflenwir, dim ond ar ôl i’r holl ddata gael ei gyflwyno ar gyfer blwyddyn adrodd benodol y gellir cyhoeddi’r ffioedd modiwleiddio terfynol.

Mae’r dull modiwleiddio sy’n cael ei ddefnyddio gan PackUK yn gweithredu ar draws pob categori deunydd, gan ddarparu cymhellion cyson i gynhyrchwyr newid i becynwaith mwy ailgylchadwy.