Symudiadau Ecséis: cais i gofrestru ar gyfer y cynllun Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro (TRC1)
Defnyddiwch y gwasanaeth ffurflenni ar-lein i wneud cais i gofrestru fel Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro.
Dogfennau
Manylion
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth ychwanegol i CThEF i ategu’ch cais.
Bydd y gwasanaeth hwn yn parhau’n berthnasol dim ond ar gyfer nwyddau sy’n cael eu cludo o un o aelod-wladwriaethau’r UE i Ogledd Iwerddon.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer nwyddau sy’n cael eu cludo i leoliad ym Mhrydain Fawr o un o aelod-wladwriaethau’r UE.
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu pan fyddwch yn gwneud cais.
Bydd angen i chi atodi eich cynlluniau busnes os nad ydych eisoes yn fusnes mawr sefydledig sydd â Dylai hwn fod ar ffurf JPEG neu PDF, ac uchafswm o 5MB.
Bydd cyfeirnod unigryw yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Dylech gynnwys y cyfeirnod hwn gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn ei hanfon drwy’r post.
Gallwch gadw llygad ar gynnydd y ffurflen ar-lein drwy ddefnyddio’r un cyfeirnod.
Gwneud cais drwy’r post
Llenwch y ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon atom gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Os byddwch yn postio’r ffurflen, ni allwch ddilyn ei hynt ar-lein.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Anfonwch eich cais drwy’r post i:
CThEF Timau Prosesu Ecséis / Excise Processing Teams
BX9 1GL
Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro
Mae Derbynyddion Cofrestredig Dros Dro yn fasnachwyr ecséis, sydd wedi’u cymeradwyo i fewnforio nwyddau ecséis o dan waharddiad toll dros dro i mewn i’r DU o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE, ar sail fesul llwyth.
Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i’r canlynol:
-
alcohol a diodydd alcoholig
-
tybaco wedi’i weithgynhyrchu (er enghraifft sigaréts, sigarau a thybaco ysmygu)
-
cynhyrchion ynni, megis olewau hydrocarbon
O dan y cynllun hwn, ni allwch ddal nac anfon nwyddau ecséis o dan waharddiad toll dros dro. Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro, bydd yn rhaid i chi gael rhif Cymeradwyo Llwyth Dros Dro (TCA) gan CThEF cyn i chi gael unrhyw nwyddau.
Os ydych am gael llwythau yn fwy aml, dylech wneud cais i ddod yn Dderbynnydd Cofrestredig.
Darllenwch Hysbysiad 204A (yn agor tudalen Saesneg) cyn ceisio llenwi’r cais.
Pryd i wneud cais am gymeradwyaeth
Cyflwynwch eich cais o leiaf 45 diwrnod cyn yr ydych yn bwriadu gwneud cais am Awdurdod Cyflenwad Dros Dro (TCA).
Peidiwch â gosod archebion nac ymrwymo i unrhyw drefniadau sy’n ymwneud â’r cynllun hwn hyd nes y bydd CThEF yn cael ac yn cymeradwyo eich cais.
Gwnewch gais am gymeradwyaeth ar yr adeg gywir er mwyn osgoi cael cosb ariannol wedi’i chodi arnoch gan CThEF. Mae gennych yr hawl i apelio os byddwn yn codi cosb debyg arnoch.
Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gywir a chynnwys yr holl wybodaeth y gofynnwn amdani neu mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich cais.
Cael gwybod pa mor hygyrch yw ein ffurflenni (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
This service will only remain relevant for goods being delivered from an EU member state into Northern Ireland. It cannot be used where goods are delivered to a location in Great Britain from an EU member state.
-
This page has been updated because the Brexit transition period has ended.
-
New details under 'Apply online' and 'Apply by post' have been added.
-
Welsh version of text added.
-
An online service is now available.
-
First published.