Canllawiau

Cosbau am gamwedd TAW ac Ecséis — CC/FS12

Diweddarwyd 20 Mawrth 2026

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi arnoch am gamweddau TAW, Ecséis neu Dreth Dirlenwi. Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres.

I weld y rhestr lawn, ewch i ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF’ ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Camweddau TAW, Ecséis neu Dreth Dirlenwi

Camweddau TAW, Ecséis a Threth Dirlenwi yw pan fo unrhyw berson yn gwneud y canlynol:

  • cyflwyno anfoneb sy’n cynnwys swm sy’n cael ei ddangos fel TAW pan nad yw wedi’i gofrestru ar gyfer TAW neu heb ei awdurdodi i gyflwyno anfonebau TAW
  • yn gwaredu deunydd mewn safle gwastraff anawdurdodedig o 1 Ebrill 2018 ymlaen, neu’n peri neu’n caniatáu gwarediad o’r fath yn fwriadol
  • defnyddio gwirodydd neu olewau hydrocarbon at ddibenion sy’n agored i gyfradd uwch o Doll Ecséis (gelwir hyn yn ‘gamddefnydd’). Er enghraifft, mae toll is ar gyfer diesel coch (a defnyddir fel arfer mewn peiriannau fferm) na diesel ar gyfer cerbydau ffordd. Os oes rhywun yn defnyddio diesel coch mewn cerbyd ffordd, mae hyn yn gamddefnydd, sy’n gamwedd
  • cyflenwi gwirodydd neu olewau hydrocarbon gan wybod y byddant yn cael eu defnyddio mewn modd sy’n golygu y dylai cyfradd uwch o Doll Ecséis fod wedi ei thalu. Er enghraifft, mae’r doll ar danwydd ar gyfer gwresogi domestig yn is na’r doll ar danwydd ar gyfer cychod preifat. Os oes rhywun yn cyflenwi tanwydd gwresogi domestig gan wybod y bydd y prynwr yn ei ddefnyddio ar gyfer cwch preifat, mae hyn yn gamwedd am fod y cyflenwr yn gwybod y bydd y tanwydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion sy’n agored i doll uwch
  • ymdrin ag unrhyw gynhyrchion alcohol, tybaco, fepio neu olewau hydrocarbon y mae Toll Ecséis heb ei thalu arnynt neu, pan nad yw’r doll wedi’i gohirio

Mae ymdrin â nwyddau yn cynnwys y canlynol:

  • cael meddiant ohonynt
  • ymwneud â’u cludo, eu symud, eu gwaredu neu’u cadw
  • fel arall, delio â nhw

Er enghraifft, mae rhywun yn mynd ar wyliau i Ffrainc. Mae’n prynu sigaréts er mwyn dod â nhw’n ôl i’r Deyrnas Unedig (DU) gyda’r bwriad o’u gwerthu. Gan na fewnforiodd y sigaréts ar gyfer ei ddefnydd ei hun, dylai fod wedi talu toll arnynt. Mae felly wedi camweddu. Mae’r person y gwerthwyd y sigaréts iddo hefyd wedi camweddu o ganlyniad i ymdrin â’r nwyddau.

Pryd y gallwn godi cosb arnoch am gamweddu

Efallai y byddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn camweddu, a chanlyniad hynny yw bod TAW, Toll Ecséis neu Dreth Dirlenwi’n ddyledus.

Os ydych yn gofyn i rywun, megis cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes camweddu yn digwydd. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.

Pan na fyddwn yn codi cosb arnoch am gamweddu

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am gamweddau TAW neu Ecséis os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych esgus rhesymol dros y camwedd
  • nid oedd y camwedd yn fwriadol
  • gwnaethoch ein hysbysu heb oedi afresymol ar ôl i’ch esgus rhesymol ddod i ben

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am gamwedd sy’n gysylltiedig â’r Dreth Dirlenwi os nad oedd y camwedd yn fwriadol.

Ystyr ‘bwriadol’ yn yr adran ‘Sut yr ydym yn cyfrifo swm y cosbau’.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau penodol y methiant i fodloni’r ymrwymiad, yn ogystal â’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Os oedd unrhyw beth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a wnaeth gyfrannu tuag at y camweddu ar eich rhan, rhowch wybod i’r swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd rhoi gwybod i’r swyddog yn ei alluogi i roi sylw i hyn wrth ystyried a oedd gennych esgus rhesymol.

Datgelu achos o gamweddu cyn i ni ddod o hyd iddo

Os ydych yn rhoi gwybod i ni am gamwedd cyn bod gennych reswm i gredu ein bod ar fin dod o hyd iddo, rydym yn galw hynny’n ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os ydych yn rhoi gwybod i ni am gamwedd ar unrhyw adeg arall, rydym yn galw hynny’n ‘ddatgeliad wedi’i annog’.

Unwaith y byddwn wedi cychwyn gwiriad, gall datgeliad ond fod yn un heb ei annog os yw, o dan amgylchiadau prin, yn ymwneud â chamwedd nad yw’n gysylltiedig â’r hyn rydym yn ei wirio neu nad oedd gennych reswm i gredu y gallem fod wedi dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad.

Mae’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad wedi’i annog.

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosbau y gallwn eu codi arnoch

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o ddweud, helpu a rhoi yn cynnwys y canlynol:

  • dweud wrthym fod rhywbeth o’i le, neu gytuno bod rhywbeth o’i le, a sut a pham y digwyddodd
  • dweud wrthym, gan roi cymaint o fanylion ag y gallwch, am yr hyn sydd o’i le, cyn gynted â’ch bod yn gwybod amdano
  • ein helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
  • ein helpu i ddeall eich cyfrifon neu’ch cofnodion
  • ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
  • ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
  • ein helpu drwy wirio’ch cofnodion er mwyn canfod graddau’r anghywirdeb
  • ein helpu drwy ddefnyddio’ch cofnodion preifat i nodi gwerthiannau neu incwm sydd heb eu cynnwys ar eich Ffurflen Dreth
  • ein galluogi i gael mynediad at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
  • rhoi’r gallu i ni gael mynediad at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch ynghylch camwedd cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano neu os credwch ein bod ar fin dod o hyd iddo
  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y bydd gennych yr hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai. Os nad oes arnom angen cymorth ychwanegol gennych, ac os nad oedd oedi sylweddol ar eich rhan cyn datgelu, byddwn yn rhoi’r gostyngiad llawn sydd ar gael i chi, yn ôl y gyfraith, am ddweud, helpu a rhoi.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.

Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb

Mae 8 cam i’w cymryd wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.

1 Cyfrifo swm y ‘refeniw a gollwyd o bosibl’ (PLR)

Mae’r gosb yn ganran o’r hyn a alwn yn ‘refeniw a gollwyd o bosibl’. Y PLR yw’r swm sy’n codi o ganlyniad i’r camwedd. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn gennym.

2 Pennu ein barn am yr ‘ymddygiad’

Pan fo camweddu, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod beth wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb a swm y gosb. Y mathau gwahanol o ymddygiad yw:

  • Anfwriadol - Dyma pan oeddech wedi camweddu ond nid oedd yn fwriadol neu’n fwriadol ac wedi’i guddio. Ni fydd cosb yn cael ei chodi arnoch am gamwedd Treth Dirlenwi anfwriadol
  • Bwriadol - Dyma pan oeddech yn gwybod eich bod wedi camweddu ond ni wnaethoch geisio cuddio hynny
  • Bwriadol a chudd - Dyma pan oeddech yn gwybod eich bod wedi camweddu, a gwnaethoch gymryd camau bwriadol i guddio hynny

3 Pennu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog

Mae hyn yn pennu canran isaf bosibl y gosb y gallwn ei chodi. Caiff hyn ei esbonio’n fwy manwl yn yr adran ‘Datgelu camwedd cyn i ni ddod o hyd iddo’, uchod.

4 Ystod y cosbau

Bydd canran y gosb yn syrthio o fewn ystod. Bydd yr ystod hon yn dibynnu ar ein barn ynghylch y math o ymddygiad, a ph’un a oedd y datgeliad wedi’i annog neu beidio. Mae’r tabl canlynol yn dangos ystod y cosbau.

Math o ymddygiad Datgeliad heb ei annog Datgeliad wedi’i annog
Anfwriadol (nid yw hyn yn berthnasol i gamweddau Treth Dirlenwi) 10% i 30% 20% i 30%
Bwriadol 20% i 70% 35% i 70%
Bwriadol ac wedi’i guddio 30% i 100% 50% i 100%

Yn ogystal, mae ystod ar wahân o gosbau am gyflenwi cynnyrch gan wybod y bydd yn cael ei gamddefnyddio, gweler isod. Nid yw hyn yn berthnasol i gamweddau eraill.

Math o ymddygiad Datgeliad heb ei annog Datgeliad wedi’i annog
Bwriadol 30% i 100% 50% i 100%

Os oes gennych esgus rhesymol dros gamweddu’n anfwriadol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch am gamwedd TAW neu Ecséis. Nid oes cosbau am gamweddau Treth Dirlenwi anfwriadol.

5 Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi)

Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi), yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y cosbau. Mae’r gostyngiad y byddwn yn ei roi yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni:

  • ar gyfer dweud — rydym yn rhoi hyd at 30%
  • ar gyfer helpu — rydym yn rhoi hyd at 40%
  • ar gyfer caniatâd i weld cofnodion — rydym yn rhoi hyd at 30%

Wrth gyfrifo ansawdd y datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir yr ydych wedi ei gymryd i roi gwybod i ni am y camwedd. Os ydych wedi cymryd cryn amser i gywiro neu ddatgelu’r hyn sydd o’i le (er enghraifft, 3 blynedd neu fwy), byddwn fel arfer yn cyfyngu’r gostyngiad mwyaf posibl a rown am ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canrannol uwchben isafswm ystod y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.

6 Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y cosbau a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Yn ystod gwiriad cydymffurfio Ecséis, daethom o hyd i gamwedd anfwriadol nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am y camwedd, roedd yn cytuno â ni ei fod wedi camweddu.

Roedd hwn, felly, yn ddatgeliad wedi’i annog.

Ystod y gosb am gamweddu nad yw’n fwriadol gyda datgeliad wedi’i annog yw 20% i 30% o’r PLR.

Y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) oedd 70%.

Camau Enghraifft o gyfrifiad
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng canrannau isaf posibl ac uchaf posibl y gosb 30% llai 20% = 10
Yna, rydym yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn rhoi canran y gostyngiad. 10 x 70% = 7%
Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad o ganran uchaf posibl y gosb y gallwn ei chodi 30% llai 7% = 23%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni 23%

7 Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r PLR â chyfradd ganrannol y gosb. Er enghraifft, os oedd y PLR yn yr enghraifft uchod yn £3,000, ac nid oedd gostyngiadau eraill, y gosb fyddai £690 (£3,000 x 23% = £690).

8 Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, byddwn wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sy’n angenrheidiol. Er enghraifft, pan fyddwn eisoes wedi codi cosb arall ar yr un dreth neu doll.
Bydd hyn wedyn yn rhoi swm y gosb y byddwn yn ei chodi.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Ar ôl dwyn unrhyw beth rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano i ystyriaeth, byddwn yn anfon hysbysiad asesiad o gosb atoch yn dangos y swm sy’n ddyledus.

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb os nad ydych yn ei thalu mewn pryd.

Adegau pan fydd yn rhaid i swyddog cwmni, o bosib, dalu cosb gyfan y cwmni, neu ran ohoni am gamweddu’n fwriadol

Efallai y bydd yn rhaid i swyddog cwmni dalu cosb gyfan y cwmni, neu ran ohoni, os yw’r gosb yn ddyledus o ganlyniad i’w weithredoedd, ac mae un neu’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae wedi, neu wedi ceisio, elwa’n bersonol o ganlyniad i gamweddu bwriadol
  • mae’r cwmni yn, neu rydym yn credu ei fod ar fin dod yn, fethdalwr - hyd yn oed os na wnaeth y swyddog ar ran y cwmni elwa’n bersonol o’r camweddu bwriadol

Os yw’r cwmni’n talu’r gosb, ni fyddwn yn gofyn i’r swyddogion unigol ei thalu.

Mae swyddog cwmni yn gyfarwyddwr, cyfarwyddwr cysgodol, ysgrifennydd y cwmni neu reolwr y cwmni, neu’n aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Mae’n bosibl y bydd swyddog cwmni’n agored yn bersonol dros gamwedd Treth Dirlenwi os bydd yn gwaredu deunydd mewn safle gwastraff anawdurdodedig neu’n peri neu’n caniatáu gwarediad o’r fath yn fwriadol.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
  • cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau apelio, gweler ‘Anghytuno â phenderfyniad treth neu gosb’.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn berthnasol, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb – eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu’r cosbau y credwn sy’n ddyledus, gallwch apelio – os byddwch yn apelio ynglŷn â threthi yn ogystal â chosbau, mae gennych hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried ar y cyd
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.

Y cyfnodau treth a’r trethi y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt

Mae’r rheolau cosbi yn y daflen wybodaeth hon yn berthnasol ar gyfer camweddau TAW ac Ecséis ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, ar gyfer yr holl drethi a thollau sydd wedi’u rhestru isod, oni bai y nodir yn wahanol.

  • Toll Alcohol
  • Tollau Ecséis (Daliadau a Symudiadau)
  • Toll Olewau Hydrocarbon
  • Treth Dirlenwi (o 1 Ebrill 2018 ymlaen)
  • Toll Tybaco
  • Toll Cynhyrchion Fepio (o 1 Hydref 2026 ymlaen)
  • VAT

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael ragor o wybodaeth, ewch i ‘Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch.