Datgan manylion partneriaeth ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu'r ffurflen bost CCL2 i ddatgan manylion partneriaeth wrth gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.
Dogfennau
Manylion
Datgan manylion partneriaeth wrth gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL), gallwch naill ai:
- defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
- llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i CThEM
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu’i hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen CCL1 i gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.
Gallwch ddarllen y canlynol:
- arweiniad ar sut i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (yn agor tudalen Saesneg)
- gwybodaeth fanwl am yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (yn agor tudalen Saesneg)
Updates to this page
-
An online forms service is now available.
-
Welsh version of form CCL2 added to the page.
-
First published.