Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Chwefror 2026

Diweddarwyd 23 Chwefror 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Comisiwn Elusennau yn croesawu Cadeirydd newydd

Ym mis Ionawr, croesawyd ein Cadeirydd newydd, Y Fonesig Julia Unwin.

Gyda phrofiad helaeth yn y sector gwirfoddol ac mewn rheoleiddio, bydd hi’n arwain y bwrdd i gyflawni dyletswyddau statudol a blaenoriaethau strategol y Comisiwn. Mae Julia yn edrych ymlaen at barhau â’i hymgysylltiad â’r sector yn y misoedd i ddod.

Darganfyddwch fwy am ein llywodraethu

Codi arian gyda hyder

Rydym wedi adnewyddu ein canllawiau codi arian (CC20) i gyd-fynd â’r Cod Ymarfer Codi Arian diwygiedig, a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2025. Mae’r cod diwygiedig yn gliriach, yn fwy hyblyg ac yn fwy addas ar gyfer codi arian modern, ac mae ein canllawiau’n ei ategu drwy ganolbwyntio ar sut i gydymffurfio â’ch dyletswyddau ymddiriedolwr wrth godi arian gan y cyhoedd.

Darllenwch Codi arian i elusennau: canllaw i ddyletswyddau ymddiriedolwyr (CC20) - GOV.UK

Etholiadau’r Senedd a lleol – neges gan ein Prif Weithredwr

Gall elusennau ymgyrchu er mwyn cefnogi eu dibenion, ac mae’r Comisiwn yn cefnogi’r hawl hwnnw’n gadarn. Ond wrth wneud hynny rhaid iddynt gadw o fewn y gyfraith, gan sicrhau eu bod yn parhau’n annibynnol ar wleidyddiaeth plaid. Wrth i etholiadau agosáu, darllenwch feddyliau ein Prif Weithredwr am yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan elusennau yn eu gweithgareddau ymgyrchu a gwleidyddol yn ystod y cyfnod sydd ar ddod. Darganfyddwch beth all elusennau ei ddisgwyl gennym ni yn ein dull o reoleiddio’r gweithgaredd hwn, ynghyd â dolenni i’n canllawiau perthnasol.

Darllenwch flog David Holdsworth Elusennau ac ymgyrchu: myfyrdodau cyn yr etholiad i’r Senedd ac etholiadau lleol

Canllawiau newydd i gefnogi elusennau sy’n wynebu amgylchedd gelyniaethus

Y llynedd cyhoeddasom ganllawiau newydd ar sut y gall elusennau ymateb pan fyddant yn wynebu amgylchedd gelyniaethus. Darllenwch hwn i ddeall y ffordd orau o ddiogelu eich pobl a’ch adeiladau a ble i ddod o hyd i gymorth. Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau ar adrodd digwyddiadau difrifol i esbonio pryd y dylech adrodd i ni os yw’ch elusen yn wynebu bygythiadau neu drais.

Darllenwch Sut gall elusennau ymateb i’r amgylchedd gelyniaethus presennol

Newyddion diweddar