Cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wneud hynny drwy’r post gan ddefnyddio’r ffurflen gais yma. Llenwch hi i mewn a’i phostio i ni.
Dogfennau
Manylion
Y gwasanaeth ar-lein yw’r ffordd gyflymaf i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch ddefnyddio ffurflen BR19W i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth os:
- rydych yn 16 oed neu drosodd, ac
- o leiaf 30 diwrnod i ffwrdd o’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan edrychwn ar eich cais
Cyn i chi ddechrau’r ffurflen hon
Am help a chyngor i gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol
Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu dabled
Nid oes modd i chi gwblhau’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled. Rhaid i chi naill ai:
- defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur
- argraffu’r ffurflen a’i chwblhau â llaw
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur
Defnyddiwch ddarllenwr PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenwr PDF am ddim ar-lein.
Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenwr sgrîn i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi gwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich arwain trwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn eu rhoi.
Peidiwch a defnyddio porwr eich cyfrifiadur, neu os ydych yn defnyddiwr Apple Macintosh, y cymhwysiad Preview.
Gallwch arbed data sydd wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenwr PDF. Mae hwn yn meddwl nad oes angen i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.
Mae trafferthion dibynadwyedd gyda rhai meddalwedd cynorthwyol, a all meddwl ni fydd y ffurflen yn arbed yn gywir.
Bydd y ffurflen hon dim ond yn arbed os:
- mae wedi arbed ar eich cyfrifiadur
- mae wedi agor mewn fersiwn diweddar o ddarllenwr PDF
Ni fydd y ffurflen yn arbed mewn:
- fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
- rhai darllenwr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar PC
Gwirio ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch:
- wirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein
- gwneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth dros y ffôn
Os ydych angen y ffurflen hon mewn fformat gwahanol
Cysylltwch â Chanolfan Bensiwn y Dyfodol i ofyn am:
- gopi o’r ffurflen wedi’i hargraffu
- fformat gwahanol, fel print mawr, braille neu CD sain
Updates to this page
-
Added revised versions of the forms in English and Welsh.
-
Updated the English and Welsh versions of the application form. The new versions are dated 04/23.
-
Updated the interactive version of the BR19 form.
-
Updated BR19 form in English and Welsh to December 2020 version.
-
Added revised versions of the forms in English and Welsh.
-
Added link to request a State Pension forecast by phone.
-
Added revised BR19 English and Welsh - print versions.
-
Added revised BR19 forms (May 2018): Application for a State Pension statement - English and Welsh.
-
Removed link to the State Pension online statement which is no longer available from 1 September 2015.
-
First published.