Ein llywodraethiant

Byrddau rheoli a grwpiau gwneud penderfyniadau Cofrestrfa Tir EF.


Mae Cofrestrfa Tir EF yn rhan o’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae’r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr Dros Dro Iain Banfield yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol Steve Reed.

Goruchwylio yw cylch gorchwyl Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yn bennaf, tra bo’r cyfrifoldeb rheoli o ddydd i ddydd gan yr Uwch Dîm Gweithredol.

Bwrdd Cofrestrfa Tir EF

Diben Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yw cefnogi, herio’n adeiladol a rhoi arweiniad i’r Uwch Dîm Gweithredol, goruchwylio datblygu a chyflwyno’r strategaeth fusnes a gytunwyd a sicrhau llywodraethu priodol o weithgaredd Cofrestrfa Tir EF.

Ei brif amcanion yw:

  • rhoi cyngor a chytuno ar weledigaeth hir dymor, strategaeth fusnes tymor canolig, y gyllideb flynyddol a dangosyddion perfformiad allweddol
  • adolygu perfformiad ariannol a gweithredol
  • monitro datblygiadau’r farchnad ar gyfer cyfleoedd ac ystyried unrhyw risgiau strategol mae’r sefydliad yn eu hwynebu, sicrhau bod systemau a rheolaethau priodol ar waith
  • sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion statudol
  • sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio ymarfer gorau mewn perthynas â llywodraethu corfforaethol
  • sicrhau y caiff perthnasau effeithiol eu cynnal â budd-ddeiliaid, cwsmeriaid, cyflenwyr, cyflogeion ac adrannau’r llywodraeth

HM Land Registry Board terms of reference

Aelodau

Mae Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yn cael ei arwain gan Gadeirydd anweithredol annibynnol a gefnogir gan fwyafrif o aelodau anweithredol, sef y canlynol ar hyn o bryd:

Pwyllgor Archwilio a Risg

Rôl y Pwyllgor Archwilio a Risg yw monitro ac adolygu effeithiolrwydd gweithgaredd risg, sicrwydd ac archwilio. Ar ran y bwrdd, mae’r pwyllgor yn archwilio’n heffeithiolrwydd o ran y canlynol:

  • systemau rheolaeth fewnol a systemau rheoli risg
  • rheoli risg
  • camau a gymerwyd neu i’w cymryd i reoli risgiau difrifol neu i ddatrys unrhyw fethiannau rheoli neu wendidau a nodir

Mae’r pwyllgor yn cynnwys cyfarwyddwyr anweithredol a gweithredol. Maent yn annibynnol ar y rheolwyr ac unrhyw weithgaredd arall allai effeithio ar eu gwrthrychedd. Mae Pennaeth Archwiliad Mewnol yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor hefyd.

Is-bwyllgor o Fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Archwilio a Risg.

Audit and Risk Committee terms of reference

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Risg yw:

Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau

Mae’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau yn sicrhau bod trefniadau tâl ac enwebu yn cefnogi amcanion Cofrestrfa Tir EF ac yn goruchwylio recriwtio, cadw a pherfformiad y tîm gweithredol.

Is-bwyllgor o Fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau.

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau yw:

Y Pwyllgor Cwsmeriaid a Newid

Mae’r Pwyllgor Cwsmeriaid a Newid yn cefnogi’r bwrdd i sicrhau bod cynlluniau trawsnewid y sefydliad yn parhau i fod yn gyson â’i uchelgeisiau strategol a bod modd eu cyflawni’n effeithiol.

Is-bwyllgor o fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Cwsmeriaid a Newid.

Change Committee terms of reference

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Newid yw:

Pwyllgor Adolygu Gofal Cwsmeriaid

Sefydlwyd y Pwyllgor Adolygu Gofal Cwsmeriaid i gynnal adolygiad annibynnol o weithdrefnau trin cwsmeriaid a phrofiadau cwsmeriaid yng Nghofrestrfa Tir EF. Mae gwaith y pwyllgor bellach wedi ei gwblhau ac mae’r adoddiad wedi ei gyhoeddi.

Y Pwyllgor Gweithredol

Y Pwyllgor Gweithredol sy’n rhedeg Cofrestrfa Tir EF o ddydd i ddydd ac mae’n gwasanaethu fel y prif awdurdod o ran gwneud penderfyniadau o fewn y sefydliad. Mae’r Pwyllgor Gweithredol, sy’n cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol Cofrestrfa Tir EF, yn darparu arweinyddiaeth strategol i sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei ganlyniadau strategol a’i ymrwymiadau ategol.

Cefnogir y Pwyllgor Gweithredol ymhellach gan nifer o is-bwyllgorau.