Amdanom ni

CThEF yw awdurdod treth, taliadau a thollau’r DU, ac mae gennym ddiben hanfodol: rydym yn casglu’r arian sy’n talu am wasanaethau cyhoeddus y DU ac yn helpu teuluoedd ac unigolion drwy gyfrwng cymorth ariannol sydd wedi’i dargedu. Rydym yn gwneud hyn drwy fod yn ddiduedd ac yn fwyfwy effeithiol ac effeithlon wrth weinyddu. Rydym yn helpu’r mwyafrif gonest i gael eu trethi’n iawn, ac yn ei gwneud yn anodd i’r lleiafrif anonest dwyllo’r system.


Cawsom ein sefydlu gan Ddeddf Seneddol yn 2005 fel adran newydd, gan ddisodli Cyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref.

Rydym yn adran anweinidogol a sefydlwyd gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005, gan ddisodli Cyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref. Mae Deddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau wedi rhoi cyfrifoldeb dros weinyddu’r system dreth i’r Comisiynwyr a benodwyd gan y Brenin. Daw’r Comisiynwyr o brif reolwyr yr adran.

Rydym yn adrodd i’r Senedd drwy ein gweinidog trysorlys sy’n goruchwylio ein gwariant.

Mae’r Trysorlys yn arwain ar bolisi treth strategol a datblygiad polisi. Mae CThEF yn arwain ar gynnal a chadw polisïau a’u gweithredu. Gelwir y trefniant hwn ar gyfer llunio polisïau yn ‘bartneriaeth bolisi’.

Rydym:

  • yn gyfrifol am ddiogelu llif yr arian i’r Trysorlys drwy ein gweithgareddau casglu, cydymffurfio a gorfodi
  • yn sicrhau bod arian ar gael i gyllido gwasanaethau cyhoeddus y DU
  • yn hwyluso masnach ryngwladol ddilys, yn diogelu diogelwch cyllidol, economaidd, cymdeithasol a chorfforol y DU cyn ac wrth y ffin, ac yn casglu ystadegau masnach y DU
  • yn gweinyddu Taliadau Statudol fel tâl salwch statudol a thâl mamolaeth statudol
  • yn helpu teuluoedd ac unigolion gyda chymorth ariannol wedi’i dargedu drwy dalu credydau treth
  • yn gweinyddu Budd-dal Plant
  • yn fusnes gyda llawer iawn o gwsmeriaid; mae bron pob unigolyn a busnes yn y DU yn gwsmer uniongyrchol i CThEF
  • yn anelu at weinyddu’r system dreth yn y ffordd fwyaf syml ac effeithlon, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
  • yn gweinyddu Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth

Cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • Treth Incwm, Treth Gorfforaeth, Treth Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddiant, Treth Premiwm Yswiriant, Treth Dir y Tollau Stamp a Threth Refeniw Petrolewm
  • trethi amgylcheddol
  • ardoll newid yn yr hinsawdd ac ardoll agregau a threth dirlenwi
  • Treth Ar Werth (TAW), gan gynnwys TAW mewnforio
  • toll dramor
  • tollau ecséis
  • ystadegau masnach
  • Yswiriant Gwladol
  • credydau treth
  • Budd-dal Plant
  • gorfodi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • adennill ad-daliadau Benthyciadau Myfyrwyr
  • goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian
  • prisiadau eiddo sy’n cefnogi trethiant a budd-daliadau

Blaenoriaethau

Mae gennym 5 amcan strategol:

  • cau’r bwlch treth
  • gwella perfformiad o ddydd i ddydd a phrofiad cyffredinol y cwsmer
  • diwygio a moderneiddio’r drefn o ran gweinyddu trethi a thollau
  • adeiladu sefydliad sy’n perfformio ar lefel uchel ac sydd â gweithlu medrus
  • cynorthwyo â nodau economaidd ehangach y llywodraeth drwy waith CThEF

Siarter CThEF

Rydym am roi gwasanaeth diduedd a chywir i chi sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch gan y ddau ohonom. Rydym hefyd yn awyddus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i chi gael pethau’n iawn.

Mae Siarter CThEF yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.