Procurement

Caffael yn Tŷ'r Cwmnïau

Cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i Dŷ’r Cwmnïau.


Darganfod mwy am Dŷ’r Cwmnïau.

Darllenwch strategaeth Tŷ’r Cwmnïau 2025 i 2030.

Cyfleoedd i weithio gyda Tŷ’r Cwmnïau

Rydym yn cyhoeddi cyfleoedd tendro agored ar y gwasanaeth Dod o Hyd i Dendr. I gymryd rhan, bydd angen i chi gofrestru fel cyflenwr a chwblhau eich gwybodaeth cyflenwr. Bydd angen i chi hefyd gofrestru ar borth cyflenwyr Tŷ’r Cwmnïau.

Gallwch ddod o hyd i gymorth ar sut i gofrestru fel cyflenwr.

Rydym yn cyhoeddi rhestr o weithgareddau caffael wedi’u cynllunio ar gyfer contractau â gwerth amcangyfrifedig o dros £2 filiwn, a hynny’n wirfoddol. Mae hyn er mwyn rhoi gwybodaeth i gyflenwyr am ein gofynion yn y dyfodol a chefnogi ein gwaith blaen-gynllunio.

Rydym yn prynu’r rhan fwyaf o’n nwyddau a’n gwasanaethau trwy fframweithiau fel y rhai a sefydlwyd gan Wasanaeth Masnachol y Goron (CCS). Gallwch ddysgu mwy am ddod yn gyflenwr ar gytundeb fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron. Mae CCS hefyd yn darparu canllaw ysgrifennu tendrau i gyflenwyr.

Canfasio

Rhaid i Dŷ’r Cwmnïau gaffael yn unol â chyfraith caffael cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’n holl gyfleoedd gael eu dyfarnu mewn modd teg a thryloyw. Ni fyddwn yn ymateb i unrhyw gyflenwyr sy’n cysylltu â ni y tu allan i’r broses benodedig.

Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn eich cynigion

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn caniatáu defnyddio AI wrth ddatblygu tendrau. Fodd bynnag, mae cynigwyr yn gyfrifol am wirio a dilysu cywirdeb eu tendrau.

Cynefino cyflenwyr

Pan fyddwch yn dod yn gyflenwr i Dŷ’r Cwmnïau, byddwn yn rhoi dolen i chi gofrestru ar ein systemau.

Rhaid i chi anfon pob anfoneb, gan gynnwys rhif yr archeb brynu berthnasol, drwy e-bost i accountspayable@companieshouse.gov.uk.

Telerau ac amodau Tŷ’r Cwmnïau

Rydym yn defnyddio contractau safonol Swyddfa’r Cabinet ar gyfer pob contract rheoleiddiedig. Nid yw hyn yn cynnwys contractau a ddyfarnwyd drwy fframweithiau, sy’n defnyddio telerau’r fframwaith.

Ar gyfer caffael gwerth isel, mae telerau ac amodau gwerth isel Tŷ’r Cwmnïau yn berthnasol.

Gwybodaeth i gyflenwyr newydd a chyflenwyr presennol

Darllenwch y wybodaeth a’r canllawiau ar Ddeddf Caffael 2023.

Sicrwydd diogelwch

Rydym yn defnyddio cwmni o’r enw Risk Ledger i sicrhau gofynion diogelwch ar gyfer ein contractau. Fel cyflenwr, gallwch greu cyfrif am ddim.

Adnoddau diogelwch

I gefnogi eich seiberddiogelwch, gall cyflenwyr gofrestru ar gyfer yr adnodd rhybuddio cynnar gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae’r NCSC hefyd yn darparu pecyn cymorth Hanfodion Seiber am ddim ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gontractau gyda Thŷ’r Cwmnïau, bydd angen i gyflenwyr gael ardystiad Hanfodion Seiber (neu gyfwerth).

Datganiadau i’r wasg a chymeradwyaethau cyflenwyr

Rhaid i gyflenwyr gael caniatâd gan Dŷ’r Cwmnïau i gyhoeddi datganiadau i’r wasg sy’n ymwneud â’u gwaith gyda neu ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.

Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi nac yn cefnogi cymeradwyaethau na chyfeiriadau sy’n argymell cyflenwyr. Ar gais, gall Tŷ’r Cwmnïau ddarparu datganiad o ffaith.

Caethwasiaeth fodern

Gall cyflenwyr gwblhau asesiad risg caethwasiaeth fodern. Mae hwn yn adnodd am ddim sydd ar gael i bob busnes.

Cynlluniau lleihau carbon

Ar gyfer pob contract gwerth £5 miliwn y flwyddyn, rhaid i gyflenwyr ddarparu eu cynllun lleihau carbon. Darllenwch y canllawiau ar greu cynllun lleihau carbon fel cyflenwr.

Mentrau bach a chanolig (SMEs) a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol (VCSEs)

Mae gan yr Adran Busnes a Masnach (DBT) wefan bwrpasol sy’n darparu cefnogaeth i SMEs. Ewch i Business.gov.uk.

Mae gan CCS ganllawiau ar gyfer SMEs a chanllawiau ar gyfer VCSEs sydd eisiau ymuno â’u fframweithiau.