Ein llywodraethiant
Prif fwrdd penderfynu a’r pwyllgorau archwilio a chydnabyddiaeth ariannol yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Y prif fwrdd
Mae’r prif fwrdd yn:
- cynnwys y cadeirydd, y prif weithredwr, aelodau anweithredol y bwrdd, a’r cyfarwyddwyr gweithredol ar gyfer Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu, Cyllid a Masnach, Gwybodaeth a Gorfodaeth y Gyfraith, a Thrawsnewid a Newid Busnes
- ymdrin â phob agwedd ar ein sefydliad, gan gynnwys perfformiad, materion ariannol a chyfeiriad strategol
- adrodd i’r Adran Busnes a Masnach (DBT) ar ein llywodraethiant, ein strategaeth, ein blaenoriaethau a’n cynnydd
Prif aelodau’r bwrdd
- John Clarke (Cadeirydd)
- Tim Burt
- Emir Feisal
- Carol Shutkever
- Chris Loake
- Jessica Rusu
- Andy King
- Luisa Fulci
- Sarah Whitehead
- Martin Swain
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cynorthwyo’r prif fwrdd ac yn gweithredu fel corff cynghori anweithredol. Mae’r pwyllgor yn adrodd i’r Swyddog Cyfrifyddu (Prif Weithredwr a Chofrestrydd) ar faterion archwilio, llywodraethiant corfforaethol, ac effeithiolrwydd y sefydliad wrth reoli risg.
Mae’r pwyllgor yn gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu, y Cyfarwyddwr Cyllid a Masnachol, y Pennaeth Goruchwylio Risg a Sicrwydd Corfforaethol a chynrychiolwyr o Asiantaeth Archwilio Fewnol y Llywodraeth, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a KPMG fynychu cyfarfodydd trwy wahoddiad. Caiff poble eraill sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad arbenigol eu gwahodd i ddod i gyfarfodydd pan fo’n briodol.
Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
- Emir Feisal (Cadeirydd)
- Tim Burt
- Jessica Rusu
Y Pwyllgor Pobl a Diwylliant
Mae’r pwyllgor yn cymeradwyo cylch cyflog tâl blynyddol Tŷ’r Cwmnïau, ac yn adrodd ar ei weithgareddau a’i ganfyddiadau i’r bwrdd.