Datganiad i'r wasg

Dyrannu £180 miliwn i adfywio naw o gymdogaethau yng Nghymru

Cyhoeddwyd y bydd naw o gymdogaethau sydd wrth galon bywyd yng Nghymru yn cael hyd at £20 miliwn yr un o gyllid gan Lywodraeth y DU i adfer balchder yn eu bro ac i agor drysau i gyfleoedd newydd.

Cyhoeddwyd y bydd naw o gymdogaethau sydd wrth galon bywyd yng Nghymru yn cael hyd at £20 miliwn yr un o gyllid gan Lywodraeth y DU i adfer balchder yn eu bro ac i agor drysau i gyfleoedd newydd.

Ym mis Medi y llynedd, fel rhan o’r Rhaglen Balchder Bro, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai £180 miliwn yn cael ei rannu rhwng naw o awdurdodau lleol dros 10 mlynedd i dargedu’r ardaloedd a allai gael y budd mwyaf o amrywiaeth eang o brosiectau adfywio. 

Bydd yr arian hwn yn grymuso pobl leol i fynd i’r afael â’r problemau sy’n difetha eu cymunedau – boed hynny golygu glanhau graffiti, achub sefydliadau cymunedol gwerthfawr, neu fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.  

Ar ben hyn, bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael cyfran o £34.5 miliwn o gyllid cyfalaf i wella eu mannau cyhoeddus, gan gynnwys trwsio cysgodfannau bws sydd wedi torri, ailagor toiledau mewn parciau, darparu rhagor o finiau i helpu i atal sbwriel, ac ailwampio canolfannau hamdden sydd wedi dirywio.

Dyma’r cymdogaethau a fydd yn cael cyllid o hyd at £20 miliwn. 

  1. Blaenau Gwent: Cwm Sirhywi
  2. Caerffili: Bargoed, Aberbargoed a Thredegar Newydd
  3. Caerdydd: Trelái a Chaerau
  4. Sir Gaerfyrddin: Llanelli
  5. Conwy: Llandudno
  6. Castell-nedd Port Talbot: Cwm Afan Uchaf
  7. Casnewydd: Canol dinas Casnewydd
  8. Rhondda Cynon Taf: Rhondda Fach
  9. Abertawe: Dyfaty a’r Stryd Fawr

Bydd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens yn nodi’r cyhoeddiad drwy ymweld ag un o’r ardaloedd sydd wedi’u dyfarnu cyllid, Tredegar ym Mlaenau Gwent, i glywed gan aelodau’r gymuned sut y gellid gwario’r arian.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydyn ni’n cefnogi ein cymunedau’n uniongyrchol gyda’r buddsoddiad sylweddol hwn. Trigolion yr ardaloedd hyn sy’n rheoli’r cyllid hwn, a bellach mae ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud yr ardaloedd hyn yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.

Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar sicrhau swyddi, ffyniant a thwf, ac mae’r rhaglen Balchder Bro yn rhan allweddol o hynny. Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n buddsoddi’n uniongyrchol mewn cymunedau yng Nghymru er mwyn datblygu cymdogaethau cryfach a mwy ffyniannus.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd yng Nghyngor Blaenau Gwent:

Mae hyn yn newyddion gwych i Ddyffryn Sirhywi. Bydd y cyllid yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau ac yn cyd-fynd â’n cynlluniau adfywio ehangach ar gyfer yr ardal.

Mae Bargen Blaenau Gwent, ein ffordd newydd o weithio gyda chymunedau, yn golygu ein bod yn gwrando ar bobl a busnesau lleol am eu hanghenion, felly mae cael Bwrdd Cymdogaeth sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau yn cefnogi hyn yn llawn.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Conwy, Julie Fallon:

Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd wardiau Tudno a Mostyn yn Llandudno yn derbyn cyllid Balchder Bro. Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth parhaol yn y gymuned hon, sydd ymhlith rhai o’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yn y wlad.

Bydd yn helpu i wella’r lleoedd y mae pobl yn byw ac yn gweithio, a chreu cyfleoedd newydd i drigolion sy’n haeddu gweld newid ystyrlon.

Bydd Byrddau Cymdogaeth, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol, nawr yn penderfynu ar beth yn union y bydd y buddsoddiad yn cael ei wario. Bydd y byrddau hyn yn cael eu sefydlu nawr, gyda chyllid yn dechrau o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Gallai’r prosiectau gynnwys adfywio’r stryd fawr a chanol y dref, gwarchod treftadaeth leol, darparu tai, creu swyddi, hybu cynhyrchiant a sgiliau, gwella iechyd a llesiant, creu cysylltiadau trafnidiaeth newydd, darparu addysg a chyfleoedd, a gwella diogelwch. 

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Chwefror 2026