Datganiad i'r wasg

Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennau, David Holdsworth, yn ymweld ag elusennau yn Ne Cymru

Mae elusen Gymreig yn defnyddio arian drwy raglen Adfywio Ymddiriedolaethau'r rheoleiddiwr.

Charity Commission Chief Executive David Holdsworth pictured with clinical staff at Daring to Dream/Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau, David Holdsworth, yn y llun gyda staff clinigol yn Daring to Dream

Mae Prif Weithredwr y rheoleiddiwr elusennau wedi ymweld â dwy elusen yng Nghaerdydd  heddiw [3 Medi 2025]

Ei ymweliad cyntaf oedd â LATCH elusen canser plant, sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, sydd o dan ofal y Brif Ganolfan Driniaeth Oncoleg Bediatrig yn Ysbyty Plant Cymru.

Mae ymweliad y Prif Swyddog Gweithredol yn cyd-daro â Mis Ymwybyddiaeth Canser Plant sy’n digwydd bob mis Medi ac sy’n anelu at greu ymwybyddiaeth a chymorth i blant yr effeithir arnynt gan ganser.

Ei ail ymweliad oedd â’r elusen Mentro i Freuddwydio, sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo iechyd emosiynol a lles cleifion ysbyty sy’n oedolion yng Nghymru.

Mae Mentro i Freudwydio yn un o nifer o dderbynwyr i gael arian drwy raglen Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru’r rheoleiddiwr. Mae’r rhaglen, sy’n nodi arian segur ac yn helpu i’w hailgyfeirio i achosion tebyg, naill ai’n uniongyrchol neu mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru, wedi cefnogi’r elusen i ddatblygu presenoldeb mwy ar-lein. Mae’r elusen wedi defnyddio arian i greu cynnwys digidol proffesiynol ar gyfer ei gwefan a’i chyfryngau cymdeithasol, gan hybu ei chyrhaeddiad i fwy o fuddiolwyr a chefnogwyr.

Fe ddaw ymweliadau heddiw wrth i’r rhaglen gyrraedd £12,300,545 wedi’i hadfywio yng Nghymru yn unig, gan gyfrannu at achosion da, sefydliadau cymunedol ac elusennau ledled Cymru.

Dywedodd David Holdsworth, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau: “Rwy’n ddiolchgar i bawb yn LATCH a Mentro i Freuddwydio am fy nghyflwyno i’w gwaith hanfodol heddiw. Roeddwn i’n gallu gweld a chlywed am bopeth maen nhw’n ei wneud i gefnogi plant a’u teuluoedd drwy’r hyn sy’n annirnadwy. Mae elusennau fel y rhain yn gwneud gwahaniaeth rhyfeddol i filoedd o bobl bob dydd, ledled De Cymru a thu hwnt.

“Rwyf hefyd yn galonogol o wybod bod ein rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau wedi chwarae rhan wrth helpu Mentro i Freuddwydio i ennill cefnogwyr newydd ac ehangu eu cyrhaeddiad i fwy o deuluoedd. Gyda mwy o gyllid maen nhw wedi gallu arddangos eu gwasanaethau sy’n cynnwys cynnig mannau i deuluoedd ddod at ei gilydd ar gyfer gweithgareddau therapiwtig, cysur a chysylltiad.”

Dywedodd Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr LATCH: “Roeddem wrth ein bodd yn croesawu David i LATCH i ddysgu’n uniongyrchol am wasanaethau cymorth pwrpasol ein helusen, gan gynnwys ein llety ysbyty teuluol am ddim sy’n caniatáu i deuluoedd fod yn agos at eu plentyn pan fyddant yn cael triniaeth. Diolch i David am gymryd yr amser i gyfarfod â rhai o’n hymddiriedolwyr, aelodau’r tîm, teuluoedd a chydweithwyr gofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i glywed am eu profiadau a gwaith LATCH wrth helpu teuluoedd pan fyddant ein hangen fwyaf.”

Dywedodd Barbara Chidgey, sylfaenydd a Chadeirydd Daring to Dream: “Yn 2022, gwnaeth Mentro i Freuddwydio gais llwyddiannus am grant o £2,000 o ‘Gronfa Cymru’ y Sefydliad Cymunedol. Roeddem angen rhywfaint o arian ar frys i’n helpu i wella cynnwys digidol ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn sylweddol, a oedd wedi’i ddatblygu yn ystod y pandemig o bell a chan wirfoddolwyr.

“Gyda’r cymorth llawrydd proffesiynol hwnnw, fe wnaethom ailwampio ein gwefan yn raddol gan wella ymarferoldeb, cynnwys, dyluniad a chynllun. Fe wnaethom fuddsoddi mewn ffotograffau a graffeg llawer gwell. Mae’r effaith wedi bod yn anhygoel. Mae ein gwefan (ein ‘ffenestr siop’) yn denu llawer mwy o ddiddordeb, gan wahodd pobl i’r llwyfannau rhoi ar-lein, tra bod ein cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn llawer mwy deniadol a llawer mwy effeithiol. Rydym wedi bod yn ddiolchgar iawn am y cymorth ariannol hwn.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion: 

  1. Y Comisiwn Elusennau yw’r adran lywodraeth annibynnol, anweinidogol sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei uchelgais yw bod yn rheoleiddiwr arbenigol sy’n deg, yn gytbwys ac yn annibynnol fel y gall elusen ffynnu. Bydd yr uchelgais hon yn helpu i greu a chynnal amgylchedd lle mae elusennau’n meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd ymhellach ac yn y pen draw yn cyflawni eu rôl hanfodol wrth wella bywydau a chryfhau cymdeithas. Dysgwch ragor: Amdanom ni - Y Comisiwn Elusennau (www.gov.uk)
  2. Mae’r rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn sicrhau bod arian elusennol sy’n segur yn cael ei wario ac yn gwneud gwahaniaeth fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae’r rhaglen yn helpu elusennau trwy gefnogi a chynghori ymddiriedolwyr sy’n ei chael hi’n anodd gwario eu hincwm, recriwtio ymddiriedolwyr newydd, nodi buddiolwyr, neu ddod o hyd i amser i redeg yr elusen.
  3. Os ydych chi’n gweithio gydag elusen sydd o bosibl angen ein cymorth, e-bostiwch y Comisiwn Elusennau yn CSrevitalisingtrusts@charitycommission.gov.uk am wybodaeth a chyngor.
  4. Derbyniodd Mentro i Freuddwydio grant o £2000 trwy Sefydliad Cymunedol Cymru, a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau.
  5. Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser Plant yn digwydd bob mis Medi ac fe’i cynhelir gan Children with Cancer UK (rhif elusen: 298405).
  6. Mae Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Sefydliad Cymunedol Cymru ar gyfer elusennau sy’n gweithredu yng Nghymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Medi 2025