Tybaco a fêps: tystiolaeth i gefnogi deddfwriaeth
Disgrifiad yr alwad o dystiolaeth
Mae’r Bil Tybaco a Fêps yn cael ei ystyried yn Senedd y DU ar hyn o bryd. Bydd y bil yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais i greu DU di-fwg a diogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed tybaco a risgiau bod yn gaeth i nicotin.
Rydym yn datblygu polisi mewn nifer o feysydd lle ceir tystiolaeth dda. Fodd bynnag, mae rhai pynciau y mae angen rhagor o dystiolaeth arnynt, a bydd yr alwad am dystiolaeth hon yn helpu i hysbysu datblygiad polisi ar reoliadau posibl yn y dyfodol.
Mae angen inni gasglu tystiolaeth ar y canlynol:
- sylweddau a chynhwysion a defnyddir i greu blasau mewn fêps a chynhyrchion nicotin
- faint o nicotin y dylid ei ganiatáu mewn cynhyrchion sy’n cynnwys nicotin
- maint a siâp fêps, tanciau a dyfeisiau sydd fel fêps, a rôl technoleg yn y dyfeisiau hyn
- cynnig i gyflwyno cynllun trwyddedu newydd ar gyfer gwerthu tybaco, cynhyrchion fepio a nicotin
- cynnig i gyflwyno cynllun cofrestru cynnyrch newydd yn y DU
Pan fyddwn wedi casglu y dystiolaeth hon byddwn yn ymgynghori ar gynigion polisi.
Rydym yn croesawu safbwyntiau a thystiolaeth gan unigolion a sefydliadau, gan gynnwys:
- academyddion
- cyrff diwydiant
- cynghorau lleol
- arbenigwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â gwybodaeth a phrofiad perthnasol