Publication

Ymateb i sylwadau ar y canllawiau drafft ar sut y bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn defnyddio sancsiynau sifil

Updated 7 April 2026

Cyflwynwyd sancsiynau sifil ar gyfer iechyd planhigion fel rhan o ddeddfwriaeth yn 2020 ond nid yw’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi eu rhoi ar waith eto). Bydd y canllawiau, ar ôl eu cyhoeddi, yn ein galluogi i ddefnyddio sancsiynau sifil yng Nghymru a Lloegr, mewn perthynas â throseddau sy’n ymwneud ag iechyd planhigion y mae APHA yn gyfrifol am gymryd camau gorfodi yn eu cylch.  

Mae sancsiynau sifil yn darparu amrywiaeth ehangach o opsiynau gorfodi y gellir eu defnyddio yn ogystal â’r adnoddau sy’n bodoli eisoes. O ganlyniad, bydd APHA yn gallu ymgymryd â’i rôl orfodi mewn perthynas â rheoliadau iechyd planhigion mewn ffordd fwy gymesur ac yn gallu cyfateb unrhyw sancsiwn neu gam gorfodi yn well i’r drosedd. 

Mae’r mwyafrif helaeth o weithredwyr yn cydymffurfio â’r rheoliadau ac ni fydd y sancsiynau sifil yn effeithio arnynt. Bydd APHA yn parhau i ddefnyddio cyngor ac arweiniad yn bennaf i annog cydymffurfiaeth lle y bo’n bosibl.  

Gellir dod o hyd i’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â sancsiynau sifil yn atodlen 4A i’r canlynol: 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Lloegr) 2019) (legislation.gov.uk) 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (legislation.gov.uk) 

Cynnig

Gwahoddwyd rhanddeiliaid i adolygu’r canllawiau drafft er mwyn i ni allu sicrhau eu bod yn glir cyn eu cyhoeddi. Gwnaethom ofyn y cwestiynau canlynol: 

1. A yw’r canllawiau yn glir ac yn hawdd i’w deall, yn eich barn chi? Os nad ydynt, pa rannau sy’n aneglur?  

2. A ydych yn deall y gwahanol fathau o sancsiynau sifil, ac o dan ba amgylchiadau y gellir eu gosod?  

3. A ydych yn deall eich hawliau i apelio, neu i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau yn erbyn sancsiwn sifil?  

4. Unrhyw sylwadau eraill? 

Gofynnwyd am ymatebion rhwng 1 Rhagfyr 2025 a 6 Chwefror 2026.

Crynodeb o’r ymatebion

Cawsom ddau ymateb a oedd yn cynrychioli un unigolyn ac un sefydliad rhanddeiliaid. At hynny, gofynnodd un busnes i ni am estyniad a gwnaethom gytuno i roi estyniad byr iddo, ond ni chawsom ymateb pellach.

Pryderon allweddol ac ymateb y llywodraeth

Unigol

Nid atebodd yr ymateb gan unigolyn sy’n gweithio yn y sector garddwriaethol y cwestiynau yn uniongyrchol ond cododd gwestiwn am nifer yr asiantaethau sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid. Er iddo gytuno bod sancsiynau sifil yn syniad da, roedd yn pryderu bod y system iechyd planhigion yn gymhleth ac awgrymodd yn gryf y dylid annog sectorau i geisio cyngor heb ofn.

Ymateb

Rydym wedi darparu adran adnoddau pellach ar ddiwedd y canllawiau sy’n amlinellu rolau a chyfrifoldebau’r gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud ag iechyd planhigion, canllawiau defnyddiol a chyfeiriad e-bost APHA ar gyfer cwestiynau am iechyd planhigion.

Sefydliad

Cafwyd yr ymateb sefydliadol gan Gymdeithas y Crefftau Garddwriaethol a ganmolodd y ddogfen oherwydd ei strwythur clir, a nododd y cosbau yn glir ac yn gryno. Roedd yn gwerthfawrogi’n arbennig y defnydd o enghreifftiau a senarios. Darparodd ymateb manwl i bob adran o’r canllawiau ac, felly, rhoddir trosolwg o bob adran ac ymateb isod.

Cwmpas

Pwyntiau a godwyd:

  • eglurder ynglŷn â’r sefyllfa yng ngwledydd eraill y DU
  • cais am ddiffiniadau o rai o’r geiriau a ddefnyddir ac eglurhad ynglŷn â gofynion cofrestru
  • rhoi gwybod am y canllawiau terfynol a phryd y caiff sancsiynau sifil eu defnyddio

Ymateb

Rydym wedi tynnu sylw at y ffaith mai mater datganoledig yw iechyd planhigion ac wedi cyfeirio at yr Alban a Gogledd Iwerddon lle na ddarperir ar gyfer sancsiynau sifil mewn deddfwriaeth. Rydym hefyd wedi cyfeirio at strategaeth bioddiogelwch planhigion Prydain Fawr sy’n cynnwys fframwaith iechyd planhigion defnyddiol ac yn nodi cyfrifoldebau yn y gwahanol wledydd.

Rydym wedi cynnwys dolenni yn yr adran ‘adnoddau pellach’ newydd ar gyfer diffiniadau yn y ddeddfwriaeth ac ar gyfer canllawiau ynglŷn â chofrestru a bod yn weithredwr proffesiynol. Rydym wedi ychwanegu llinell er mwyn nodi am faint o amser y cedwir data sancsiynau sifil a phwy sy’n eu cadw ac wedi esbonio’r gwahaniaeth rhwng sancsiynau sifil a sancsiynau troseddol.

Egwyddorion

Pwyntiau a godwyd:

  • awgrymwyd y dylai’r ‘adran Adnoddau Pellach’ gyfeirio at wybodaeth y Comisiwn Coedwigaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru
  • egluro at bwy y caiff sancsiwn sifil ei gymhwyso
  • egluro’r gair ‘tegwch’

Ymateb

Rydym bellach wedi cynnwys adran ‘Adnoddau Pellach’ ar ddiwedd y canllawiau ac wedi ychwanegu dolenni i’r Comisiwn Coedwigaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru ochr yn ochr ag adnoddau eraill.

Rydym wedi diwygio’r testun er mwyn egluro y caiff sancsiwn sifil ei gymhwyso at y gweithredwr proffesiynol sy’n gyfrifol am yr achos o ddiffyg cydymffurfio.

Sancsiynau sifil

Pwyntiau a godwyd:

  • gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â chyfeiriad at ‘pobl’
  • cais am enghreifftiau o droseddau mewn paragraff rhagarweiniol
  • hysbysiad cydymffurfio: Mae’n ddefnyddiol i ddangos pwy sy’n rhoi’r cyngor a’r arweiniad
  • hysbysiad stop: Pwy fydd yn rhoi iawndal a sut y gallwch wneud cais amdano
  • ymgymeriad gorfodi: a yw hyn wedi methu â nodi bod cyfnod penodedig o amser ar gyfer cydymffurfio
  • cosbau diffyg cydymffurfio: a oes cap fesul cosb ariannol amrywiadwy

Ymateb

Gwnaethom newid y cyfeiriad at ‘pobl’ i ‘gweithredwyr proffesiynol’ a nodi bod enghreifftiau yn nes ymlaen yn y canllawiau. Gwnaethom hefyd ychwanegu dolenni i’r ddeddfwriaeth sy’n rhestru’r holl droseddau sydd o fewn y cwmpas ar gyfer sancsiynau sifil.

Rydym wedi ychwanegu, ar gyfer hysbysiad cydymffurfio, mai’r awdurdod priodol a fydd yn rhoi cyngor ac arweiniad. Rydym hefyd wedi egluro, ar gyfer hysbysiad stop, mai APHA fydd yn rhoi iawndal lle y gellir ei gyfiawnhau, a fydd yn rhoi cyngor ar sut i wneud cais os bydd yr amgylchiadau hyn yn codi.

Gwnaethom ychwanegu at yr Ymgymeriad Gorfodi bwynt ynglŷn â chamau y mae angen eu cymryd yn y cyfnod penodedig o amser am fod hyn yn gywir.

Nid oes unrhyw gap ar gosbau am ddiffyg cydymffurfio yn y ddeddfwriaeth, felly rydym wedi ychwanegu hyn er eglurder Mae’r testun yn cyfeirio at y ffordd y caiff y rhain eu cyfrifo yn seiliedig ar y costau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r hysbysiad neu ymgymeriad nad yw wedi’i gwblhau eto.

Sylwadau

Pwyntiau a godwyd:

  • sut y rhoddir sancsiwn sifil a phwy fydd y derbynnydd?
  • byddai enghraifft o’r hyn na ellir apelio yn ei erbyn yn ddefnyddiol

Ymateb

Rydym wedi egluro sut y rhoddir sancsiwn sifil ac i bwy ac wedi rhoi enghraifft o’r hyn na ellir apelio yn ei erbyn.

Adennill costau

Pwynt a godwyd:

  • byddai’n werth nodi bod adennill costau yn ychwanegol at unrhyw gosbau ariannol os yw hynny’n wir

Ymateb

Mae hynny’n wir ac, felly, rydym wedi ychwanegu llinell er mwyn egluro hyn.

Cyhoeddi data

Pwyntiau a godwyd:

  • gofynnwyd am ragor o wybodaeth am sut y caiff data eu cyhoeddi

Ymateb

Cyhoeddir y data ar GOV.UK fel data cryno wedi’u hanonymeiddio. Byddwn yn gwneud hyn bob blwyddyn.

Y camau nesaf

Byddwn yn cyhoeddi’r canllawiau wedi’u diweddaru ar ddechrau mis Ebrill ac ni fydd APHA yn defnyddio sancsiynau sifil tan fis Hydref 2026. Mae hyn yn rhoi chwe mis i’r sector ddeall goblygiadau’r canllawiau yn llawn a mynd i’r afael ag unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio nad ymdriniwyd â nhw eto. Byddwn yn cynnwys y wybodaeth hon ar y dudalen ar GOV.UK lle y ceir y canllawiau.

Efallai y bydd mân ddiweddariadau i’r canllawiau dros amser, ond bydd angen ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid er mwyn trafod newidiadau sylweddol.

Hoffwn ddiolch i’r rhai a ymatebodd am roi o’u hamser i roi adborth ar y ddogfen ganllaw ddrafft. Mae eich sylwadau wedi bod yn werthfawr iawn er mwyn helpu i gwblhau’r canllawiau ar gyfer sancsiynau sifil. Gobeithio bod hyn yn dangos ein bod wedi ystyried pob sylw ac wedi darparu mwy o eglurder yn y canllawiau terfynol.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill am y ddogfen ganllaw, anfonwch neges e-bost i planthealth@defa.gov.uk.